Donald Trump (Llun: AP/David Goldman)
Mae’n ymddangos mai Donald Trump fydd ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras am y Tŷ Gwyn ar ôl iddo hawlio buddugoliaeth yn Indiana.

Mae ei wrthwynebydd Ted Cruz wedi cyhoeddi ei fod yn dirwyn ei ymgyrch i ben sy’n golygu mai Trump yw’r ymgeisydd tebygol i herio ymgeisydd y Democratiaid Hillary Clinton ym mis Tachwedd.

Mewn araith yn dilyn ei fuddugoliaeth, fe roddodd y biliwnydd addewid y byddai’r Gweriniaethwyr yn dod i’r brig ym mis Tachwedd ac y byddai’n rhoi “America’n gyntaf.”

Yn y cyfamser roedd y seneddwr Bernie Sanders wedi hawlio buddugoliaeth dros Hillary Clinton yn Indiana ond mae’n annhebyg y bydd hynny’n ei rhwystro rhag bod yn ymgeisydd y Democratiaid.

Dros y chwe mis nesaf, fe fydd Clinton a Trump yn mynd benben a’i gilydd yn y ras am yr arlywyddiaeth, gyda mewnfudo, iechyd ac ymgyrchoedd milwrol yr Unol Daleithiau o dan y chwyddwydr.