Mae mwy na 150 o bobol wedi cael eu hachub o dân mewn adeilad o fflatiau yn ne Sweden.

Mae gweithwyr achub yn dweud fod y fflamau wedi cydio ar lawr ucha’r adeilad 200 troedfedd yn Huskvarna ger dinas Jonkoping.

Chafodd neb ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad, er bod tri o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty o ganlyniad i anadlu mwg.

Mae’r awdurdodau yn dal wrthi’n ymchwilio i achos y tân.