Mae bom car yn ninas Baghdad wedi lladd beth bynnag 13 o bererinion Shiiaidd a oedd yn nodi marwolaeth Imam o’r 8fed ganrif.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod car yn llawn o ffrwydron wedi cael ei ffrwydro toc wedi hanner dydd heddiw ym mhrifddinas Irac, a hynny yn ardal Saydiyah. Y gred ydi fod 28 o bobol wedi’u hanafu hefyd.

Mae degau o filoedd o ffyddloniaid wedi bod yn gwneud eu ffordd i ardal Kadhimiyah yng ngogledd Baghdad yr wythnos hon, ble mae’r Imam Moussa al-Kadhim wedi’i gladdu.

Mae rhai o brif ffyrdd Baghdad wedi’u rhwystro gan luoedd diogelwch.