Mae lluoedd Twrci yn hawlio buddugoliaeth fechan, wedi i 34 o wrthryfelwyr ISIS (y Wladwriaeth Islamaidd) gael eu lladd yn Syria.

Mae asiantaeth newyddion y wlad, Anadolu, yn cyhoeddi heddiw fod ymosodiadau wedi llwyddo hefyd i ddinistrio lawnswyr rocedi a safleoedd strategol.

Ddydd Sul, fe gafodd tuag wyth o bobol eu hanafu yn ninas Kilis gan rocedi a daniwyd o gyfeiriad Syria.

Hefyd ddydd Sul, fe gafodd bom car ei ffrwydro y tu allan i orsaf heddlu yn ninas Gaziantep yn ne Twrci. Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hwnnw hyd yma.