Mae tanau mawr mewn fforestydd yng ngogledd India yn bygwth dwy ardal gadwraeth sy’n gwarchod teigrod.

Mae’r tanau wedi bod yn llosgi ers pedwar mis yn Uttarakhand, ac mae saith o bobol wedi’u lladd yn y cyfnod hwnnw. Mae llywodraeth India wedi bod yn anfon hofrenyddion i ollwng dwr ar y fflamau, ond mae’r tanau erbyn hyn wedi llyncu 23km sgwar (8 milltir sgwar) o fforestydd pîn.

Mae dau dân yn dal i losgi heddiw, gan fygwth Parc Cenedlaethol Corbett a Pharc Cenedlaethol Rajaji.

Ers mis Chwefror, mae’r tanau wedi lledu dros 13 o ardaloedd yn Uttarakhand, ac mae’r awdurdodau’n dweud mai’r hyn sydd wedi gwaethygu’r sefyllfa ydi’r ddau dymor sych iawn sydd wedi bod.

Mae pedwar o ddynion wedi’u harestio ar amheuaeth o gynnau’r tanau, a hynny mewn ymdrech i glirio tir ar gyfer codi tai.