Y goelcerth ivori ym mharc cenedlaethol Nairobi ddoe (llun: AP Photo/Ben Curtis)
Mae arlywydd Kenya wedi cynnau coelcerth o dros 100 tunnell o ifori eliffant a thunnell o ifori trwyngornfil er mwyn ceisio tanseilio masnach anghyfreithlon potsiars yn y wlad.

Y gred yw mai dyma’r goelcerth fwyaf erioed o’i math.

Dywedodd yr arlywydd, Uhuru Kenyatta, y bydd Kenya yn pwyso am waharddiad llwyr ar fasnach mewn ifori mewn cyfarfod o o’r Confensiwn ar Fasnachu Rhyngwladol Rhywogaethau mewn Perygl yn Ne Affrica yn ddiweddarach eleni.

Roedd  rhai wedi dadlau y byddai’n well i lywodraeth Kenya werthu’r ifori a chodi tua £100 miliwn i’w wario ar gadwraeth, ond  dywed yr arlywydd fod ar Kenya eisiau pwysleisio na ddylai fod unrhyw werth masnachol i ifori.

“Mae’r amser wedi dod i wneud safiad – ac mae Kenya yn datgan fod ifori yn ddiwerth oni bai ei fod ar ein eliffantod,” meddai.