Maes awyr Brwsel ar ôl y ffrwydradau (llun: PA)
Mae adeilad y derfynfa ym maes awyr Brwsel yn ailagor heddiw am y tro cyntaf ers yr ymosodiadau marwol gan hunan-fomwyr Islamaidd ar 22 Mawrth.

Roedd y maes awyr eisoes wedi ailgychwyn rhai teithiau awyren ond roedd y teithwyr yn gorfod defnyddio pabell dros dro i wirio eu tocynnau a’u bagiau oherwydd y difrod i’r adeilad.

Fe fydd teithwyr yn gorfod mynd trwy wiriadau diogelwch ychwanegol cyn cael mynd i’r derfynfa.

Dywedodd pennaeth cwmni maes awyr Brwsel, Arnaud Feist fod heddiw’n ddiwrnod pwysig yn y gwaith o adfer y maes awyr a delwedd y ddinas.

Dywedodd y byddai’r maes awyr wedi ei adfer yn llwyr erbyn canol mis Mehefin.

Fe fu farw 16 yn yr ymosodiadau ar 22 Mawrth.