Arlywydd Syria (Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio bod pobol yn llwgu yn Syria a heb ofal meddygol, ac yn dweud y dylai’r byd  “gywilyddio” am fethu gwneud mwy i helpu.

Dywedodd Stephen O’Brien, ysgrifennydd cyffredinol y sefydliad dros faterion dyngarol ac argyfyngau, bod pobol yn y wlad yn llwgu, er gwaethaf cynnydd mewn pecynnau cymorth.

Mynnodd fod angen i fudiadau dyngarol gyrraedd pobol ymhob ardal yn y wlad a dywedodd wrth Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig na ddylid colli cyfle yn nhrafodaethau heddwch Genefa.

“Gall bobol Syria ddim fforddio gweld y sefyllfa’n camu’n ôl eto,” meddai Stephen O’Brien.

“Os bydd y gymuned ryngwladol yn methu cadw momentwm gwleidyddol… bydd y sefyllfa ond yn mynd yn waeth.”

Beirniadodd Lywodraeth Syria am dynnu cyflenwadau meddygol o gerbydau sy’n cario cymorth, gan alw’r penderfyniad yn “annynol” ac yn weithred sy’n torri cyfraith ddyngarol ryngwladol.

“Heb fwyd na moddion, a hynny’n fwriadol, mae llawer yn wynebu trallod a newydd. Dylwn ni gyd gywilyddio fod hyn yn digwydd,” meddai Stephen O’Brien.

Rhybuddio llywodraeth Assad

Roedd gan Stephen O’Brien rybudd i lywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad yn Syria, gan ddweud y byddai’r rhai sy’n gyfrifol am “ddioddefaint diangen a cholli bywydau” yn cael eu gwneud yn atebol pan fydd y rhyfel yn dod i ben.

Yn ei araith, dywedodd Stephen O’Brien fod Rhaglen Fwyd y Byd wedi helpu 3.7 miliwn o bobol a bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi brechu dros 2.1 miliwn o blant yn erbyn polio ym mis Mawrth.

Ond mae’r ffaith fod sawl man yn Syria yn dal i fod tu hwnt i unrhyw un sy’n ceisio mynd i mewn i helpu yn gadael “dinasyddion yn llwgu a heb ofal meddygol”, meddai.

Yn dilyn ymweliad cyntaf y Cenhedloedd Unedig â dinas Daraya ers 2012 ar 16 Ebrill, dywedodd Stephen O’Brien fod 80 i 90% o’r ardal wedi cael ei dinistrio, ac nad oedd modd trwsio cyflenwadau trydan, dŵr a chyfleusterau hylendid.

Dywedodd fod preswylwyr sawl cartref yn bwyta un pryd o fwyd y dydd, gyda’r rhai tlotaf yn “anfon plant i’r strydoedd i fegian ac yn cael eu gorfodi i fwyta glaswellt a thyfiant gwyllt”.

Er hynny, dywedodd Stephen O’Brien bod cais y Cenhedloedd Unedig i anfon cymorth i’r ddinas yn dal i aros am gymeradwyaeth.

Mae’r sefydliad wedi anfon ceisiadau i anfon pecynnau cymorth i 35 o drefi sydd â’r “angen mwyaf” ym mis Mai, gan gynnwys Daraya a Douma.