Mae mwy na 60 o bobl wedi’u lladd mewn ymosodiadau awyr yn ninas Aleppo yn Syria yn ystod y 24 awr ddiweddaf, yn ôl ymgyrchwyr a rhai sy’n goruchwylio’r ymosodiadau.

Mae’r ddinas bellach yn ganolbwynt i’r ymladd yn rhyfel cartref  y wlad, wrth i’r cadoediad bregus ddod i ben ac oedi yn y trafodaethau heddwch yng Ngenefa.

Dywedodd ymgyrchwyr bod yr ymosodiadau awyr wedi taro ysbyty, sy’n cael cymorth gan y grŵp Meddygon Heb Ffiniau, gan ladd o leiaf 27 o bobl.

Roedd chwech o staff yr ysbyty ymhlith y meirw, gan gynnwys un o’r ychydig baediatregwyr sydd ar ôl yn y ddinas. Cafodd tri o blant hefyd eu lladd.

Daeth yr ymosodiadau wrth i lysgennad y Cenhedloedd Unedig yn Syria apelio ar yr Unol Daleithiau a Rwsia i helpu i adfywio’r trafodaethau heddwch sydd yn y fantol.

Mae prif negodwyr y gwrthryfelwyr yn Syria wedi beio llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad am yr ymosodiadau.

Mae’r Groes Goch wedi rhybuddio bod Aleppo ar fin gweld trychineb dyngarol o ganlyniad i’r ymladd a bod bwyd wrth gefn a chymorth meddygol yn mynd i redeg allan yn fuan.