Dydy enwau'r tri ddim wedi cael eu cyhoeddi hyd yma
Mae tri o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn achos o saethu mewn dawns ysgol yn Wisconsin nos Sadwrn.

Cafodd y tri eu trin yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn ysgol uwchradd Antigo am oddeutu 11 o’r gloch y nos.

Mae dau wedi cael eu symud i ysbyty arall, tra bod disgwyl i’r trydydd fynd adref ddydd Sul.

Mae’r ysgol ar gau i draffig, ond mae rhieni wedi cael mynd i mewn i’r ysgol i gasglu eu plant.