Mae heddlu Ohio wedi bod yn holi dros 30 o bobol, wrth ymchwilio i achos o saethu a welodd wyth aelod o’r un teulu wedi’u llall mewn pedwar lle gwahanol.

Mae swyddogion yn gobeithio dod o hyd i gliwiau er mwyn deall sut y lladdwyd saith o oedolion ac un bachgen 16 oed mewn cartrefi ger Piketon ddydd Gwener.

Roedd pob un wedi’i saethu yn ei ben, ac mae’n ymddangos fod rhai wedi’i lladd tra’r oedden nhw’n cysgu.

Dyw’r awdurdodau ddim eto wedi rhyddhau enwau’r dioddefwyr, ond maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw, bob un, yn aelodau o’r teulu Rhoden.