Mae athro prisygol yng ngogledd-orllewin Bangladesh wedi cael ei drywanu a’i dorri i farwolaeth ar ei ffordd i’w waith, mewn ymosodiad.

Mae heddlu lleol yn dweud fod A F M Rezaul Karim Siddique wedi diodde’r ymosodiad ar ei ffordd i’w waith ym Mhrifysgol dinas Rakshahi, lle’r oedd yn dysgu Saesneg. Roedd yr ymosodwyr wedi defnyddio arfau miniog i drywanu a thorri corff yr athro, cyn dianc o’r fan yn syth wedyn.

Mae yna debygrwydd rhwng yr ymosodiad hwn ag ymosodiadau eraill ar flogwyr digrefydd gan radicalwyr Islamaidd. Mae’r ardal yn un Fwslimaidd.

Does yr un grwp wedi hawlio cyfrifoldeb eto am yr ymosodiad, ac mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio.