Llun: PA
Mae cwmni Volkswagen, Llywodraeth yr Unol Daleithiau a chyfreithwyr preifat wedi dod i gytundeb i brynu’n ôl mwy na 600,000 o geir disel sydd wedi twyllo profion allyriadau, gan dalu mwy na £700 miliwn i ddigolledu perchnogion ceir.

Fe fydd rhai o’r perchnogion yn cael dewis atgyweirio eu ceir gan VW neu eu prynu yn ôl, ond fe fyddai hynny’n dibynnu ar flwyddyn y car a pha injan, yn ôl ffynhonnell.

Fe fydd y cytundeb yn debyg o fod yn rhan o becyn iawndal mwy gan y cwmni ond nid yw’n cynnwys cynlluniau ar hyn o bryd ynglŷn â sut i atgyweirio’r ceir.

Yn ôl ffynhonnell, mae’n debyg y bydd y cytundeb yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwrandawiad yn y llys ffederal yn San Francisco heddiw.

Fe wnaeth perchnogion y ceir fynd a chwmni Volkswagen i’r llys ar ôl i’r cwmni gydnabod ym mis Medi eu bod wedi twyllo profion allyriadau disel.

Fe ddywedodd cwmni Volkswagen wrth ei chyfranddalwyr eu bod wedi neilltuo 7.3 miliwn o ddoleri ar gyfer y costau ynghlwm wrth unrhyw gosbau ariannol. Mae’r cwmni hefyd yn wynebu gwerth £14 biliwn o ddirwyon am dorri’r gyfraith yn yr Unol Daleithiau.

Mitsubishi

Yn y cyfamser mae cwmni Mitsubishi o Japan wedi cyfaddef ei fod wedi twyllo profion eu ceir.

Roedd y profion anghywir yn cynnwys 157,000 o geir eK wagon a eK Space passenger a 468,000 o geir Dayz a Dayz Roox sy’n cael eu cynhyrchu i gwmni Nissan.

Roedd  gwerth cyfranddaliadau cwmni Mitsubishi wedi plymio mwy na 15% ar ol iddyn nhw gyfaddef eu bod wedi twyllo.