Oscar Pistorius
Mae’r cyn athletwr paralympaidd, Oscar Pistorius, wedi ymddangos o flaen llys yn Pretoria, De Affrica heddiw lle wnaeth y Barnwr gyhoeddi dyddiad ar gyfer ei ddedfrydu am lofruddio ei gariad.

Cafodd Oscar Pistorius, 29 oed, ei ddyfarnu’n euog am lofruddio Reeva Steenkamp, ar ddydd Sant Ffolant 2013.

Yn ôl y Barnwr, Aubrey Ledwaba, bydd gwrandawiad y ddedfryd yn cael ei chynnal am bum diwrnod, rhwng 13 ac 17 o Fehefin.

Fe wnaeth yr athletwr gyflwyno apêl yn erbyn ei ddyfarniad, gan ddadlau fod yr isel lys wedi gwneud camgymeriad o wyrdroi ei ddyfarniad o ddynladdiad a’i gael yn euog o lofruddiaeth.

Ond, fe wrthododd barnwyr y Llys Cyfansoddiadol yr apêl.

Lleiafswm y ddedfryd ar gyfer llofruddiaeth yn Ne Affrica yw 15 mlynedd, ond fe allai gael ei leihau.