Timau achub yn chwilio drwy'r rwbel
Parhau mae’r chwilio am oroeswyr yn dilyn daeargryn grymus yn Ecwador nos Sadwrn, wrth i nifer y meirw gynyddu.

Bu farw 262 o bobl ac mae mwy na 2,500 wedi’u hanafu yn y daeargryn a oedd yn mesur 7.8 ar raddfa Richter.  Dyma’r daeargryn mwyaf grymus i daro’r wlad ers 1979.

Yn ôl Is-Arlywydd y wlad Jorge Glas mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu ac mae rhestr hir o bobl sydd ar goll.

Mae stad o argyfwng wedi cael ei gyhoeddi yn chwech o 24 talaith Ecwador – gyda 10,000 o aelodau o’r lluoedd arfog a 4,600 o swyddogion yr heddlu wedi cael eu hanfon i’r trefi sydd wedi’u heffeithio.

Fe ddigwyddodd y daeargryn tua 16 milltir o Muisne sy’n boblogaidd gyda thwristiaid. Mae cartrefi, adeiladau a ffyrdd wedi cael eu dinistrio gyda mwy na 70% o dref Pedernales, lle mae 40,000 o bobl yn byw, wedi’i difrodi’n llwyr.

Mae ’na ddifrod hefyd yn ninasoedd Manta, Portoviejo a Guayaquil sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’r safle lle digwyddodd y daeargryn.

Roedd yr Arlywydd Rafael Correa ar ymweliad a Rhufain yn yr Eidal pan ddigwyddodd y daeargryn ac mae wedi dychwelyd er mwyn goruchwylio’r ymdrechion i roi cymorth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio.

Mae cymorth dyngarol wedi dechrau cyrraedd y trefi sydd wedi eu difrodi.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Prydain, Philip Hammond, bod staff y Swyddfa Dramor yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol yn Quito, a’u bod yn barod i helpu pobl o Brydain sydd wedi’u heffeithio.