Ecwador o'r awyr
Mae o leiaf 77 o bobol wedi cael eu lladd yn y daeargryn cryfaf yn Ecwador ers 1979.

Roedd effeithiau’r daeargryn 7.8 ar raddfa Richter i’w teimlo am gannoedd o filltiroedd wrth iddo ddinistrio cartrefi ar hyd arfordir y wlad.

Mae lle i gredu mai o ddinasoedd Manta, Portoviejo a Guayaquil y daw’r meirw, ac mae disgwyl i’r nifer godi ymhellach.

Ymhlith y rhai fu farw roedd gyrrwr tacsi, wrth i drosffordd ddymchwel yn Guayaquil.

Yn ninas Manta, gwnaeth tŵr rheoli’r maes awyr ddymchwel, gan anafu un swyddog ac fe fu’n rhaid cau’r maes awyr.

Cafodd argyfwng cenedlaethol ei gyhoeddi gan yr Arlywydd Rafael Correa yn dilyn y daeargryn.

Mae rhybudd y gallai tswnami daro’r wlad yn dilyn y daeargryn, ac mae nifer o bobol ar hyd yr arfordir eisoes wedi dechrau symud o’u cartrefi am y tro.