Yr olygfa ym Mharis ychydig oriau wedi un o'r ymosodiadau (Thierry Caro CCA 4.0)
Mae  heddlu Sbaen wedi arestio Ffrancwr ar amheuaeth o gyflenwi arfau i un o’r dynion oedd yn rhan o ymosodiadau ‘Charlie Hebdo’ ym Mharis ym mis Ionawr 2015.

Fe gafodd y Ffrancwr – Antoine Denive, 27, o ogled Ffrainc, ei ddal ddydd Mawrth mewn tre’ ar arfordir deheuol Sbaen.

Yr amheuaeth yw ei fod wedi cyflenwi arfau i Amedy Coulibaly, un o’r rhai a laddodd 17 o bobol mewn cyfres o ymosodiadau yn y ddinas.

Roedd Antoine Devine wedi gadael Ffrainc yn fuan wedi’r ymosodiad ac, yn ôl yr awdurdodau, roedd wedi parhau i weithredu’n anghyfreithlon yn ardal Malaga yn ne Sbaen.

Mae dau ddyn arall o Serbia a Montenegro wedi eu harestio hefyd.