Mae Gianni Infantino yn gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o'i le
Mae heddlu’r Swistir wedi chwilio swyddfeydd UEFA fel rhan o ymchwiliad i honiadau o lwgrwobrwyo.
Cafodd llywydd newydd FIFA, Gianni Infantino ei enwi mewn papurau cyfreithiol a gafodd eu datgelu’n gynharach ddydd Mercher.
Roedd y papurau, sydd yn eiddo cwmni cyfreithiol Mossack Fonseca o wlad Panama, yn awgrymu bod Infantino wedi cymeradwyo cytundeb darlledu Cynghrair y Pencampwyr gyda dau ddyn busnes sydd ers hynny wedi cael eu cyhuddo o lwgrwobrwyo.
Wedi i Hugo a Mariano Jinkis brynu’r hawliau, cafodd yr hawliau hynny eu gwerthu i gwmni teledu o Ecwador am dair gwaith y pris gwreiddiol.
Mae Infantino yn gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Ond mae UEFA wedi dweud eu bod nhw’n rhoi’r holl ddogfennau perthnasol i’r heddlu.