Mae cwmni bwyd cyflym McDonald’s yng Ngwlad Thai wedi ymddiheuro, wedi i fideo gael ei rhannu ar-lein yn dangos llygoden fawr yn rhedeg o gwmpas cownter pwdinau un o’i fwytai.

Fe gadarnhaodd y cwmni mewn datganiad fod llygoden fawr wedi gwneud ei ffordd i mewn i’r bwyty yn ninas Hat Yai, ac fe roddodd y bai ar gyflwr truenus gwterydd yr ardal.

“Mi aethon ni i chwilio ar luniau teledu cylch cyfyng, a gweld fod yr honiad am y llygoden fawr yn wir,” meddai’r datganiad gan McDonald’s. “Fe redodd llygoden fawr i mewn i’r bwyty, ac rydyn ni’n ymddiheuro am hynny.

“Yn anffodus, mae’r ardal yn un lle mae llygod mawr a phryfed yn bridio.”