Mae’r awdurdodau ar ynysoedd Groeg wedi dechrau anfon ffoaduriaid a mudwyr ar gychod tua Thwrci, fel rhan o gynllun yr Undeb Ewropeaidd (UE) i gyfyngu ar y mudo i Ewrop.

Wrth i’r wawr dorri y bore yma (dydd Llun), anfonwyd y 135 o fudwyr cyntaf o Lesbos ar gwch i Dwrci gan swyddogion o’r asiantaeth gwarchod ffiniau’r UE, Frontex.

Ar ynys gyfagos, Chios, bu preswylwyr lleol yn protestio ynglŷn â’r allgludo sydd i’w ddisgwyl yno.

Mae tua 4,000 o fudwyr a ffoaduriaid wedi’u dal ar ynysoedd Groeg ers i’r cytundeb ddod i rym ar Fawrth 20.

Mae’r cynllun wedi’i feirniadu gan grwpiau hawliau dynol, gyda phryder am allu Twrci i dderbyn y ffoaduriaid.

“Dyma’r diwrnod cyntaf mewn amser anodd iawn ar gyfer hawliau ffoaduriaid,” meddai Giorgos Kosmopoulos, pennaeth Amnest Cydwladol Groeg.

“Er gwaetha’r bylchau cyfreithiol sylweddol a diffyg diogelwch digonol yn Nhwrci, mae’r UE yn bwrw ymlaen â’r cytundeb peryglus.”