Darren Sammy yng Nghaerdydd yn 2014 pan chwaraeodd i Forgannwg yn y T20 Blast
Mae tîm criced India’r Gorllewin wedi ennill Cwpan T20 y Byd wrth iddyn nhw drechu Lloegr o bedair wiced yn Kolkata.

Ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf, sgoriodd Lloegr 155-9 mewn ugain pelawd wrth i Joe Root daro 54 oddi ar 36 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys saith ergyd i’r ffin.

Cafodd ei gefnogi gan y wicedwr Jos Buttler, a darodd 36 oddi ar 22 o belenni mewn batiad oedd yn cynnwys un pedwar a thri chwech.

Dwayne Bravo a Carlos Brathwaite oedd sêr India’r Gorllewin gyda’r bêl wrth iddyn nhw gipio tair wiced yr un.

Wrth anelu am nod o 156 am y fuddugoliaeth, roedd India’r Gorllewin mewn dyfroedd dyfnion wrth iddyn nhw golli eu pedair wiced gyntaf am 86, a Root wedi cipio dwy wiced am naw rhediad, gan gynnwys wiced Chris Gayle.

Daeth sefydlogrwydd i’r batiad ac achubiaeth diolch i Marlon Samuels wrth iddo daro 85 oddi ar 66 o belenni, gan daro naw pedwar a dau chwech.

Ond Carlos Brathwaite gaeodd ben y mwdwl ar yr ornest wrth iddo daro pedwar chwech oddi ar y belawd olaf gan Ben Stokes i gyrraedd y nod gyda dwy belen yn weddill.

Dathliadau ac ymateb

Ar ddiwedd yr ornest, cafodd y tlws ei gyflwyno i gapten India’r Gorllewin, Darren Sammy, a dreuliodd gyfnod yn chwarae i Forgannwg yn y T20 Blast yn 2014.

Mewn cyfweliad ar Sky Sports ar ddiwedd yr ornest, roedd Sammy yn feirniadol o’r sylwebydd Mark Nicholas am ddweud nad oedd gan India’r Gorllewin “ddim ymennydd” ac o Fwrdd Criced India’r Gorllewin yn dilyn sawl blwyddyn o anghydfod rhyngddyn nhw a’r chwaraewyr.

Dywedodd Sammy: “Dyma fuddugoliaeth fydd yn annwyl iawn i ni am amser hir.

“Mae gyda ni 15 o enillwyr ond doedd neb yn meddwl bod gyda ni obaith.

“Roedden ni’n teimlo bod ein Bwrdd wedi dangos diffyg parch tuag aton ni, gwnaeth Mark Nicholas ein disgrifio ni fel rhai heb ymennydd a gwnaeth y cyfan oll ddod â ni ynghyd.

“Mae’r gallu i roi anfanteision o’r neilltu a chwarae’r math hwn o griced yn anhygoel.

“Ry’n ni’n cyflwyno’r fuddugoliaeth hon i’r holl gefnogwyr yn y Caribî. Dw i ddim yn gwybod pryd y byddwn ni’n chwarae gyda’n gilydd eto, dydyn ni ddim yn cael ein dewis ar gyfer y tîm undydd.”

Dywedodd seren yr ornest, Marlon Samuels ei fod yn cyflwyno’i wobr “i Shane Warne”.

Roedd Warne yn feirniadol o Samuels am y ffordd y collodd ei wiced yn y rownd gyn-derfynol wrth i India’r Gorllewin drechu Awstralia.

Daeth geiriau Samuels ychydig funudau wedi i Warne ddweud ar ei dudalen Twitter ei fod yn llongyfarch Samuels ac India’r Gorllewin.

Dechreuodd y ffrae rhwng y ddau pan oedden nhw’n chwarae yn y Big Bash League yn Awstralia yn 2013.