Gan ddefnyddio offer llaw, craeniau bychain a’u dwylo eu hunain, mae gweithwyr achub yn India yn dal i chwilio am oroeswyr wedi i drosffordd gwympo yn Kolkota ddoe.

Mae 23 o bobol eisoes wedi’u lladd yn y digwyddiad, 80 wedi’u hanafu, a thua 70 wedi’u tynnu’n fyw o ganol y rwbel.

Roedd y trosffordd wedi’i chynllunio i ysgafnhau tipyn ar draffig ardal Bara Bazaar yn Kolkota, prifddinas talaith Gorllewin Bengal.