Mae o leiaf 14 o bobl wedi marw ar ôl i drosffordd, a oedd yn cael ei hadeiladu, gwympo yn India.
Mae ugeiniau hefyd wedi eu hanafu yn y digwyddiad pan syrthiodd y drosffordd ar ben ceir a cherddwyr yng nghanol dinas Kolkata. Mae timau achub nawr yn cloddio trwy’r rwbel yn chwilio am oroeswyr.
Mae mwy na 70 o bobl wedi cael eu hanafu yn ôl swyddogion, ac o leiaf 14 wedi marw.
Mae digwyddiadau tebyg yn gyffredin yn India gan nad yw rheolau adeiladu yn cael eu gweithredu’n llym iawn ac mae’r defnydd o ddeunyddiau o safon isel yn gyffredin.