Mae heddlu yn Japan wedi arestio dyn 23 oed ar amheuaeth o herwgipio merch yn ei harddegau a’i dal yn gaeth yn ei fflat am ddwy flynedd.

Mae adroddiadau’n dweud i’r ferch lwyddo i ddianc o fflat Kabu Terauchi yn Tokyo ddydd Sul, tra’r oedd o allan yn siopa; ac fe lwyddodd wedyn i ffonio ei theulu o giosg ar y stryd.

Roedd hi wedi diflannu o’i chartre’ yn Saitama ger Tokyo yn 2014.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i Kabu Terauchi ger coedwig i’r gorllewin o Tokyo ddydd Llun y Pasg. Roedd newydd raddio o’r brifysgol.