Mae pedwar dinesydd Prydeinig wedi’u dwyn i’r ddalfa yn Kenya ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â therfysgaeth. Fe gafodd y pedwar eu dal yn tynnu lluniau mewn maes awyr, yn ol adroddiadau.

Fe gafodd y dynion eu harestio yn Nairobi ar Fawrth 12, a’u cludo o’r maes awyr i gael eu holi.

Mae llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wedi cadarnhau heddiw: “Rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau yn Kenya yn dilyn arestio pedwar dinesydd Prydeinig.”