Mae trydanwr wedi plymio 800 troedfedd i’w farwolaeth o ben adeilad yn Los Angeles.

Fe syrthiodd y gweithiwr o 53ain llawr y Wilshire Grand Centre ar ddim ond ei ail ddiwrnod yn y swydd. Fe gwympodd ar ben car a oedd y pasio islaw, a hynny ar un o adegau prysura’r dydd yng nghanol y ddinas.

Chafodd y wraig oedd yn gyrru’r car y glaniodd arno ddim ei hanafu’n ddifrifol, ond fe gafodd ei chludo i’r ysbyty.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod y gweithiwr yn gwisgo het galed a bod y cwmni wedi dilyn pob rheol. Ond doedd ganddo ddim gwregys ddiogelwch i’w gysylltu i’r adeilad – a hynny am nad oedd rheolau yn galw am hynny.

Fe fydd yr adeilad 73 llawr yn ymestyn 1,100 troedfedd i’r awyr pan gaiff ei gwblhau, a hwn fydd adeilad uchaf arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau. Mae disgwyl iddo agor yn gynnar y flwyddyn nesa’.