Fe gafodd dyn ei anafu pan lwyddodd llew i ddianc o Barc Cenedlaethol Nairobi yn Kenya a chyrraedd un o brif draffyrdd y wlad yn ystod oriau brig.

Fe ymosododd yr anifail ar y dyn 63 oed wedi iddo gael ei aflonyddu gan yrwyr yn canu cyrn arno. Fe gafodd y llew ei ddal yn ddiweddarach.

Mae fideo sydd wedi’i rannu ar y gwefannau cymdeithasol yn dangos yr anifail yn rhedeg ar hyd palmant, tra bod cyrn yn canu.

Mae Parc Cenedaethol Nairobi, sy’n gorchuddio 45 milltir sgwar, yn gartre’ i’r rhino, llew, llewpard, tshita, jiraff ac amrywiol fathau o adar mewn peryg.

Dyma’r ail dro i lew allu dianc oddi yno yn y deufis diwetha’.