Mewn sesiwn cythryblus yn Senedd De Affrica heddiw, mae Arlywydd y wlad wedi gwrthod honiadau iddo gael ei ddylanwadu gan deulu busnes cyfoethog.

Roedd Jacob Zuma yn ymateb i gwestiwn gan arweinydd yr wrthblaid am honiad gan ddirprwy weinidog cyllid y wlad fod y teulu Gupta, sydd â chysylltiadau gwleidyddol, wedi cynnig swydd y gweinidog cyllid iddo’n uniongyrchol.

Ychwanegodd Jacob Zuma mai fo sy’n gyfrifol am benodi gweinidogion y cabinet, yn unol â’r cyfansoddiad.

Fe wnaeth gwleidyddion o’r brif wrthblaid, y Gynghrair Ddemocrataidd, gerdded allan o’r Senedd mewn protest am y gafael honedig sydd gan y teulu Gupta dros Jacob Zuma, gan ddweud fod yr helynt yn fygythiad i gyfanrwydd y llywodraeth.