Anders Breivik yn 2012
Mae Anders Behring Breivik, yr eithafwr asgell dde a laddodd 77 o bobl mewn ymosodiadau bom yn 2011, wedi dechrau ei achos hawliau dynol yn erbyn llywodraeth Norwy.

Wrth iddo gyrraedd y bore ma, fe wnaeth arwydd Natsiaidd at newyddiadurwyr.

Mae Breivik, 37 oed, yn erlyn y llywodraeth gan honni ei fod yn cael ei gadw mewn amodau sy’n mynd yn groes i’w hawliau dynol yng ngharchar Skien, tua 60 milltir i’r de orllewin o Oslo.

Mae’r llywodraeth wedi gwadu ei honiadau, gan ddweud ei fod yn cael ei drin yn deg a gydag urddas, er gwaethaf difrifoldeb ei droseddau.

Nid yw Breivik yn cael cyfathrebu gyda’r carcharorion eraill ac mae cyfyngiadau llym ar ei ohebiaeth bost. Nid yw’n cael cyfathrebu gydag eithafwyr asgell dde eraill a dywed y llywodraeth mai’r bwriad yw ei atal rhag sefydlu rhwydweithiau eithafol o’r carchar.

Mae’r achos yn cael ei gynnal mewn campfa yn y carchar am resymau diogelwch.

Roedd Breivik wedi gosod bom wrth ymyl swyddfeydd y llywodraeth yn Oslo cyn tanio gwn at bobl mewn digwyddiad a oedd wedi’i drefnu gan sefydliad ieuenctid y Blaid Lafur ar Orffennaf 22, 2011.

Dyma’r tro cyntaf i  Breivik gael ei weld yn gyhoeddus ers iddo gael ei ddedfrydu yn 2012.