Mae ymchwilwyr o Ffrainc sy’n ceisio dod o hyd i achos damwain awyren Germanwings y llynedd, ar fin cyhoeddi eu hadroddiad ar y digwyddiad, ac maen nhw wedi cynnal sesiwn friffio arbennig heddiw gyda theuluoedd y rheiny gafodd eu lladd.

Fe ddigwyddodd y cyfarfodydd cyfrinachol yn ninasoedd Bonn a Barcelona, cyn bod yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fory.

Mae’r ymchwilwyr wedi dod i’r casgliad fod peilot ehediad 9525 o Barcelona i Dusseldorf, Andreas Lubitz, wedi plymio’r awyren yn fwriadol i ochr mynydd ar Fawrth 24, 2015, gan ladd 150 o bobol. Roedd Andreas Lubitz wedi derbyn triniaeth at iselder cyn hynny.

Mae un o’r cyfreithwyr sy’n cynrychioli’r teuluoedd, wedi nodi fod ganddyn nhw nifer o gwestiynau i’r ymchwilwyr.