Mae 12 o deuluoedd o China, oedd a pherthnasau ar yr awyren Malaysia Airlines 370, wedi dechrau achos cyfreithiol mewn llys yn Beijing heddiw.

Fe ddiflannodd yr awyren ar Fawrth 8 2014, gyda 239 o bobol, gan gynnwys 153 o bobol o China, ar ei bwrdd, wrth iddi deithio o Kuala Lumpur i Beijing.

O dan reolau rhyngwladol, mae gan deuluoedd ddwy flynedd i ddechrau achos o erlyn yn dilyn damwain yn yr awyr.

Dywedodd cyfreithiwr y grŵp, Zhang Qihuai, mai prif nod yr achos oedd “dod o hyd i achos y ddamwain a’r sawl sy’n gyfrifol.”

Roedd yr achos cyfreithiol hefyd wedi enwi cwmni Boeing a’r gwneuthurwyr injan, Rolls-Royce, ymhlith yr amddiffynwyr.

Bydd y llys yn penderfynu a fydd yr achos yn cael ei gynnal ac yn lle.

Dirgelwch mawr

Ar ôl dwy flynedd, mae tynged yr awyren Boeing 777,  a ddiflannodd yng nghanol Cefnfor India, yn parhau i fod yn ddirgelwch.

Does neb wedi dod o hyd iddi eto, ac fe fydd y chwilio yn parhau tan fis Mehefin.

Mae ymchwilwyr yn credu i’r awyren hedfan oddi ar ei llwybr a defnyddio ei holl danwydd yng nghanol y môr.

Mae un darn o’r awyren wedi cael ei ganfod, sef rhan o’i hadenydd, a chafwyd hyd i ddau ddarn arall, a allai fod yn rhan o’r awyren, yr wythnos ddiwethaf.

Mae teuluoedd y rhai a ddiflannodd, rhai o China, Malaysia a Phrydain, wedi pwyso ar yr awdurdodau i barhau i chwilio nes iddyn nhw ddod o hyd i’r awyren.