Dail Eireann, senedd-dy Iwerddon
Wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ar ôl etholiad cyffredinol gweriniaeth Iwerddon ddoe, mae’r canlyniadau cychwynnol yn dangos bod pleidiau’r llywodraeth wedi dioddef colledion trwm.

Er y bydd y cyfrif yn parhau drwy’r penwythnos, mae eisoes yn amlwg na fydd gan y glymblaid Fine Gael a Llafur ddim gobaith o aros mewn grym ar eu pen eu hunain.

Mae arweinydd Llafur, Joan Burton, a oedd yn ddirprwy brif weinidog y llywodraeth glymblaid, ymhlith nifer o weinidogion sydd mewn perygl o golli eu sedd.

Ar y llaw arall, mae’n ymddangos y gallai’r brif wrthblaid Fianna Fail bron ddyblu ei nifer o seddau – er na fydd yn dod yn agos at adennill y gefnogaeth a oedd ganddi pan oedd yn anterth ei nerth.

Mae’n amlwg hefyd fod Sinn Fein a phleidiau eraill llai wedi gwneud cynnydd sylweddol ac y bydd yn ychwanegu at nifer eu  seddau yn y Dail.

Ansicrwydd

Gyda’r pleidleisiau wedi eu gwasgaru gymaint, mae ansicrwydd ynghylch i ba raddau y bydd modd ffurfio llywodraeth o gwbl yn y wlad.

Gyda Fine Gael a Fianna Fail yr unig ddwy blaid i ennill dros 20% o’r bleidlais, mae’r dyfalu eisoes wedi cychwyn mai un o’r ychydig bosibiliadau am lywodraeth sefydlog fyddai clymblaid rhwng y ddwy.

Byddai clymblaid o’r fath yn torri tir newydd ar ôl 80 mlynedd o elyniaeth rhwng y ddwy blaid sy’n mynd yn ôl i ryfel cartref Iwerddon.