Donald Trump
Fydd Donald Trump ddim yn llwyddo i gael ei ethol yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau, yn ôl yr Arlywydd presennol, Barack Obama.

Mae siarad a phlesio cynulleidfaoedd wrth deithio’r wlad yn ymgyrchu yn wahanol iawn i fod yn y swydd ac yn gwneud y gwaith o ddydd i ddydd, meddai mewn sgwrs ar ôl uwch-gynhadledd o arweinwyr gwledydd de-ddwyrain Asia. Rhybuddiodd fod sylwebwyr tramor yn “anniddig” yn dilyn rhai o sylwadau diweddar Donald Trump.

“Mae gwledydd eraill y byd yn dibynnu ar yr Unol Daleithiau i ochri â gwyddoniaeth a synnwyr cyffredin,” meddai. “Mae sylwadau llym Mr Trump ynglyn â Mwslimiaid, mewnfudo a newid yn yr hinsawdd, yn annoeth iawn.

“Ond nid Mr Trump yn unig yw hyn, ond y blaid Weriniaethol. Dw i’n hyderus y bydd pobol yr Unol Daleithiau yn gwneud y penderfyniad call yn y diwedd.”

Taro’n ôl

Mae Donald Trump wedi taro’n ôl yn dilyn sylwadau Barack Obama, gan ddweud fod y modd y mae’r Arlywydd presennol yn ofni ei weld yn cael ei ethol yn “gompliment mawr”.

“Edrychwch chi ar eich cyllidebau, edrychwch ar batrymau gwariant… allwn ni ddim cael y gorau ar ISIS. Mae Obamacare yn warthus… ac mae ein ffiniau yn debycach i gaws meddal o’r Swisdir.”

“Mae Mr Obama wedi gwneud job mor sâl, mae wedi mynd â’r wlad yn ei hôl, felly mae’r ffaith ei fod yn dweud na cha’ i byth fy ethol i’r Ty Gwyn yn dipyn o gompliment.”