Mae marwolaeth un o brif farnwyr yr Unol Daleithiau wedi arwain at ffrae wleidyddol wrth i’r ymgyrchu ar gyfer arlywyddiaeth y wlad barhau.

Cafwyd hyd i gorff Antonin Scalia, 79, yn nhalaith Texas ddydd Sadwrn.

Fe fydd rhaid i’r Arlywydd Barack Obama benderfynu pryd i benodi olynydd iddo.

Mae ei farwolaeth yn golygu mai wyth barnwr sydd gan y Goruchel Lys bellach, ac os yw’r barnwyr yn rhanedig mewn achosion, barn y llys isaf sydd â’r dylanwad mwyaf.

Achosion sy’n dueddol o hollti barn yw erthyliadau a mewnfudwyr.

Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd Hillary Clinton fod Antonin Scalia yn “ymroddedig”, ac mi feirniadodd y Gweriniaethwyr am fentro honni y dylid aros tan ar ôl yr etholiad arlywyddol i benodi ei olynydd.

Ond dywedodd yr Arlywydd Obama fod dewis olynydd yn fwy na phenderfyniad gwleidyddol.