Hilary Clinton, sy'n disgwyl cefnogaeth gref ymysg etholwyr du (llun o wefan ei hymgyrch)
Mae ymgeiswyr arlywyddiaeth America wedi troi eu golygon at dalaith De Carolina lle bydd pleidleisiau etholwyr du yn allweddol i’w llwyddiant.

Mae’r cyn-ysgrifennydd gwladol Hilary Clinton wedi troi ar ei gwrthwynebydd Democrataidd Bernie Sanders am ei feirniadaeth o’r Arlywydd Barack Obama.

“Mae wedi dweud bod yr Arlywydd yn wan ac yn siomedigaeth,” meddai Hilary Clinton am Sanders. “Yn wahanol i mi, nid yw’n cefnogi adeiladu ar y cynnydd y mae’r arlywydd wedi’i wneud.”

Gobaith Hilary Clinton yw y bydd De Carolina, fel y gyntaf o daleithiau’r de i bleidleisio, yn rhoi cyfle iddi adfer ei hygrededd ar ôl colli’n drwm i Sanders yn New Hampshire.

Gweriniaethwyr

Mae’r Gweriniaethwyr hefyd wedi bod yng ngyddfau’i gilydd.

Wrth i Ted Cruz wneud cyfres o hysbysebion yn erbyn Donald Trump, sydd ar y blaen yn arolygon barn y dalaith, mae Trump wedi ymateb trwy fygwth dwyn achos cyfreithiol yn ei erbyn. Mae’n dadlau nad yw Cruz yn ymgeisydd dilys gan nad yw’n ddinesydd llawn sydd wedi’i eni yn yr Unol Daleithiau.

Mae Donald Trump wedi cael ei feirniadu’n llym hefyd gan gefnogwyr Jeb Bush, brawd y cyn-arlywydd George W Bush, sy’n debygol o ddenu cefnogaeth sylweddol yn nhaleithiau’r de.

Ar ôl yr etholiad yn Ne Carolina, bydd llygaid ymgeiswyr y ddwy blaid ar y ‘Dydd Mawrth mawr’ ar Fawrth 1, pryd y bydd 17 o daleithiau’n pleidleisio yr un diwrnod.