Achubwyr yn Taiwan dar ôl y daeargryn dydd Sadwrn diwethaf (llun: PA)
Mae 115 o gyrff wedi cael eu tynnu allan o weddillion adeilad 17 llawr yn Taiwan ers y daeargryn a ddigwyddodd yno ddydd Sadwrn diwethaf.

Llwyddodd 327 o bobl a oedd yn yr adeilad i oroesi’r daeargryn pwerus a oedd yn mesur 6.4 ar raddfa Richter.

Gydag o leiaf ddau o bobl yn dal ar goll, parhau mae’r chwilio.

Mae datblygwr yr adeilad a dau bensaer wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad esgeulus yng nghanol cyhuddiadau bod y cwmni wedi torri corneli wrth adeiladu.

Mae Taiwan yn cael ei daro’n aml gan ddaeargrynfeydd, ond heb achosi fawr o ddifrod fel arfer, yn enwedig ers i reoliadau adeiladu llymach ddod i rym ar ôl i 2,300 gael eu lladd mewn daeargryn yn mesur 7.6 yn 1999.