George Clooney
Mae George Clooney a’i wraig Amal wedi cyfarfod Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, i drafod yr argyfwng yn Syria ac ymdrechion gwledydd Ewrop i helpu’r ffoaduriaid.

Roedd yr actor adnabyddus yn Yr Almaen ar gyfer Gŵyl Ffilm Berlin ac i hyrwyddo ei ffilm newydd Hail, Caesar. Fe fu’n cyfarfod Angela Merkel gyda chyn-Ysgrifennydd Tramor Prydain David Miliband, sy’n gyfrifol am y Pwyllgor Achub Rhyngwladol.

Yn dilyn y cyfarfod fe ddywedodd David Miliband eu bod wedi trafod beth all gwledydd y byd wneud i ddatrys y broblem sy’n cael ei gweld fel problem fydeang, nid fel problem i Syria na’r Almaen yn unig.

Fe fydd George ac Amal Clooney yn ymweld â lloches i ffoaduriaid yn y ddinas hefyd.