Philip Hammond
Mae pwerau rhyngwladol wedi cytuno ar gadoediad yn Syria rhwng y llywodraeth a gwrthryfelwyr, gan ddechrau’r wythnos nesaf, er mwyn dod â brwydro yno i ben.

Yn dilyn cyfarfodydd ym Munich fe ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, fod y ddwy ochr wedi dod i gytundeb, gyda Rwsia hefyd yn rhoi sêl bendith ar y fargen.

Ond fydd y cadoediad ddim yn ymestyn i grwpiau eithafol fel y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac Al-Nusra, gan olygu y byddan nhw’n parhau i gael eu targedu.

Mae’r cadoediad dros dro yn “gam pwysig” tuag at ddod â’r rhyfel cartref yn y wlad i ben, meddai Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond.

Tensiynau o hyd

Mae tua chwarter miliwn o bobol eisoes wedi cael eu lladd yn y rhyfel cartref yn Syria, ac mae miliynau yn rhagor wedi dianc fel ffoaduriaid i wledydd cyfagos neu i Ewrop.

Cafodd y cadoediad ei groesawu’n rhyngwladol, ond fe rybuddiodd Philip Hammond na fyddai’n para os nad oedd Rwsia’n stopio ymosod ar wrthryfelwyr “cymedrol”.

“Mae Rwsia, yn enwedig, yn honni eu bod yn ymosod ar grwpiau brawychol ond eto maen nhw’n gyson yn bomio grwpiau nad ydyn nhw’n eithafol, gan gynnwys pobol gyffredin,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor.

Anghytundeb

“Os yw’r cytundeb yma am weithio, fe fydd yn rhaid i’r bomio yma stopio. Fydd yr un cadoediad yn para os yw grwpiau cymedrol yn parhau i gael eu targedu,” meddai Philip Hammond.

Dywedodd gweinidog tramor Rwsia, Sergey Lavrov, y byddai ei wlad yn parhau i ymosod ar frawychwyr gan wadu eu bod wedi cynnal unrhyw ymosodiadau yn erbyn pobol gyffredin.