Mae chwech o blant ysgol wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiad  rhwng bws ysgol a thryc mewn tref arfordirol yn Ffrainc.

Dywedodd Maer Rochefort, Herve Blanche, bod ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain yn gynnar bore ma, ond fe gadarnhaodd bod chwech o blant wedi marw.

Mae gweinidog trafnidiaeth Ffrainc a swyddogion eraill y llywodraeth ar eu ffordd i safle’r ddamwain yn ardal Charente-Maritime.

Roedd 18 o bobl ifanc yn eu harddegau ar y bws adeg y gwrthdrawiad.

Dywedodd swyddog yr heddlu yn y dref, Jerome Servolle, bod darn o offer wedi dod yn rhydd o’r tryc gan daro’r bws.

“Mae hyn yn drasiedi,” meddai.