Ahmet Davutoglu, Prif Weinidog Twrci, wedi beirniadu ymateb y Cenhedloedd Unedig
Mae grŵp o 34 o bobol wedi cael eu hatal ar y ffin rhwng Syria a Thwrci, gyda bagiau’n cynnwys pedwar fest hunanfomio a hyd at 15kg o ffrwydron wedi eu canfod gan swyddogion milwrol, yn ôl adroddiadau.

Yn ôl Asiantaeth Anadolu roedd pedwar dyn, deg dynes ac ugain o blant wedi cael eu hatal ger tref Oguzeli, yn nhalaith Gaziantep.

Nid oes gwybodaeth ynglŷn â chenedligrwydd y rhai sydd wedi eu dal, ac nid yw’r adroddiad yn dweud a yw’r awdurdodau o’r farn eu bod yn gysylltiedig ag IS.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.

‘Dauwynebog’

Mae Prif Weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu, nawr wedi cyhuddo Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o fod yn “ddauwynebog” yn sgil eu galwad ar Dwrci i agor eu ffiniau i ddegau o filoedd o ffoaduriaid ychwanegol o Syria.

Dywedodd bod y Cenhedloedd Unedig wedi methu ag atal y bomio gan Rwsia yn Syria oedd wedi arwain at y ffoaduriaid hyn yn dianc yn y lle cyntaf, ac nad oedden nhw “wedi symud bys i ddatrys argyfwng Syria”.

Ychwanegodd bod y gweithdrefnau milwrol gan Syria a Rwsia yn ymgais i hel y bobol sydd ddim yn cefnogi llywodraeth Bashar Assad allan o’r wlad.

Drwy gymryd ffoaduriaid sydd wedi ffoi o ddinas Aleppo, fe ddywedodd fod Twrci yn anuniongyrchol yn cyfrannu at rywbeth mae’n ei alw yn “lanhau ethnig”.

Fe ychwanegodd fod Twrci yn bwriadu gofalu am don newydd o ffoaduriaid mewn gwersylloedd ar ffin Syria.