Mae prif weinidog Bosnia-Herzegovina wedi dweud bod ei wlad yn barod i gyflwyno ei chais ddydd Llun i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Denis Zvizdic fod ei wlad wedi gwireddu’r amodau gofynnol, a’u bod yn barod i symud ymlaen i’r cam nesaf wrth gyflwyno’u cais i Frwsel yr wythnos nesaf.

Ychwanegodd y prif weinidog ei fod yn hyderus y byddai’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi statws ‘ymgeisydd’ i Fosnia erbyn 2017.

Ar hyn o bryd mae 28 o wledydd yn rhan o’r undeb, a Croatia oedd y diweddaraf i ymuno’n ffurfiol yn 2013.

Yn ogystal â hynny mae pum gwlad arall o dde ddwyrain Ewrop hefyd bellach yn ‘ymgeiswyr’ i ymuno – Twrci, Macedonia, Albania, Serbia a Montenegro.