Donald Trump
Roedd buddugoliaeth swmpus i Bernie Sanders yn y ras am ymgeisyddiaeth arlywyddol y Democratiaid yn New Hampshire ddydd Mawrth.

Mae’r canlyniad yn cael ei ystyried yn ergyd drom i Hillary Clinton, sydd o bosib yn wynebu adlach tros berfformiad ei phlaid yn Washington.

Roedd buddugoliaeth sylweddol yn y dalaith hefyd i Donald Trump yn y ras am ymgeisyddiaeth y Gweriniaethwyr, ac yntau hefyd yn manteisio ar bleidleiswyr sydd wedi dadrithio gyda’r sefydliad.

Fe fydd y canlyniad yn hwb i Trump yn dilyn siom yn Texas wrth golli i Ted Cruz yr wythnos diwethaf.

Tra bod disgwyl o hyd i Clinton gael ei henwebu yn y pen draw, fe allai’r canlyniad hwn yn New Hampshire fod yn arwydd fod y ras yn debygol o fod dipyn agosach na’r disgwyl.

Trump sydd wedi bod ar frig y polau drwyddi draw ers misoedd, ac mae’r canlyniad hwn yn tanlinellu ei boblogrwydd.

John Kasich orffennodd yn ail yn ras y Gweriniaethwyr, a chael a chael oedd hi am y trydydd safle rhwng Cruz, Jeb Bush a Marco Rubio.