Y gwasanaethau brys yn Bad Aibling, Bafaria
Credir bod o leiaf naw o bobl wedi’u lladd a thua 150 o bobl eraill wedi’u hanafu – tua 50 ohonyn nhw’n ddifrifol – ar ol i ddau drên wrthdaro a’i gilydd yn ne’r Almaen bore ma.

Digwyddodd y ddamwain ger  Bad Aibling, yn Bafaria, toc cyn 7yb bore dydd Mawrth (amser lleol), meddai llefarydd yr heddlu, Stefan Sonntag.

Mae’r cwmni sy’n cynnal y gwasanaeth trenau, Bayerische Oberlandbahn, wedi dweud ar ei wefan bod y ddau drên wedi dod oddi ar y cledrau yn rhannol a’u bod wedi gwrthdaro a’i gilydd ar y lein rhwng Rosenheim a Holzkirchen.

Mae llinell gymorth arbennig ar gael ar gyfer teuluoedd sy’n ceisio cael rhagor o wybodaeth.

Cafodd wyth hofrennydd eu hanfon i’r safle ynghyd ag aelodau eraill o staff y gwasanaethau brys.

Dywedodd Stefan Sonntag ei bod wedi cymryd rhai oriau i gyrraedd rhai o’r bobl oedd yn gaeth yn y cerbydau ond eu bod wedi rhyddhau pob un erbyn hyn.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y ddamwain.