Mae cangen o’r IRA, sy’n galw eu hunain yn “Continuity IRA” wedi hawlio cyfrifoldeb dros yr ymosodiad mewn gwesty yn Nulyn a laddodd un person ddydd Gwener.

Mewn datganiad i’r BBC ym Melffast, dywedodd y grŵp ei fod wedi gorchymyn lladd David Byrne yn yr ymosodiad gan chwe dyn mewn noson focsio yng Ngwesty’r Regency yn y ddinas.

Dywedodd y mudiad brawychol fod David Byrne, 33 o Crumlin yn Nulyn wedi cael ei ladd er mwyn dial am lofruddiaeth arweinydd yr IRA, Alan Ryan yn y brif ddinas ym mis Medi 2012.

Mae gwerthwyr cyffuriau a throseddwyr eraill ar restr o dargedau y brawychwyr hefyd, yn ôl y Continuity IRA.

Cafodd dau ddyn arall eu hanafu yn yr ymosodiad hefyd, lle roedd tua 300 o bobol yn y gwesty, gan gynnwys plant.