Mae cannoedd o dacsis wedi cau un o brif hewlydd dinas Prague, mewn protest tros gyflogau uwch.

Fe ddechreuodd y brotest pan barciodd y gyrwyr tacsi ar dair lon ar briffordd ger yr Orsaf Ganolog – a hynny i’r ddau gyfeiriad. Ac fe ddaeth wedi i drafodaethau ddiwedd Rhagfyr rhwng y cwmni sy’n cynrychioli’r gyrwyr tacsi a chynrychiolwyr awdurdodau’r ddinas, fethu.

Mae’r gyrwyr tacsi’n honni fod Uber ac aps eraill ar ffonau clyfar, lle mae pobol yn gallu dewis a bwcio trafnidiaeth, yn anghyfreithlon am nad ydyn nhw’n gorfod cydymffurfio gyda’r un gofynion cyfreithiol ag y mae tacsis traddodiadol wedi ymrwymo iddyn nhw.

Mae’r tacsis hefyd eisiau gallu codi mwy na’r uchafswm presennol o 28 koruna (80c) y cilomedr.

Mae maer dinas Prague, Adriana Krnacova, yn mynnu nad oes gan y gyrwyr tacsi reswm gwirioneddol tros brotestio.