Y difrod wedi daeargryn Taiwan
Mae dau berson wedi cael eu hachub o’r rwbel ddeuddydd ar ôl i adeilad aml-lawr ddymchwel yn Taiwan yn sgil daeargryn sydd  wedi lladd o leiaf 37 o bobl.

Credir bod mwy na 100 o bobl yn dal yn gaeth yn y rwbel ar ol i’r adeilad 17 llawr ddymchwel yn y daeargryn fore Sadwrn.

Roedd yn mesur 6.4 ar y raddfa Richter.

Mae amheuon bellach wedi cael eu codi am y ffordd y cafodd yr adeilad ei godi yn 1989, ac mae llywodraeth Taiwan wedi addo cynnal ymchwiliad.

Dywed y llywodraeth yn ninas Tainan bod 170 o bobl eisoes wedi cael eu hachub o’r adeilad.