Fe fydd Twrci yn parhau i dderbyn ffoaduriaid o Syria er gwaetha’r ffaith fod y nifer sydd eisoes yno wedi rhoi cryn bwysau ar y wlad.

Mae hyd at 35,000 o ffoaduriaid wedi ymgasglu ar y ffin gyda Thwrci, ac mae pwysau cynyddol ar lywodraeth y wlad i’w derbyn.

Fe fu’r ffin ynghau ers tridiau.

Mae Twrci wedi dweud y byddan nhw’n cynnig cymorth i Syria, a dim ond mewn “argyfwng eithriadol” y bydden nhw’n agor y ffiniau.

Dywedodd dirprwy brif weinidog Twrci, Numan Kurtulmus wrth CNN-Turk fod 3 miliwn o ffoaduriaid yn y wlad erbyn hyn, gan gynnwys 2.5 miliwn o bobol o Syria.

Dywedodd: “Yn y pen draw, does gan y bobol hyn nunlle i fynd. Naill ai y byddan nhw’n marw o dan y bomiau a bydd Twrci’n gwylio cyflafan fel y bydd gweddill y byd, neu fe fyddwn yn agor ein ffiniau.”

“Ar hyn o bryd, rydym yn gadael rhai i mewn ac yn ceisio cadw eraill yno (yn Syria) drwy roi pob math o gefnogaeth ddyngarol iddyn nhw.

“Dydyn ni ddim mewn sefyllfa i allu dweud wrthyn nhw am beidio dod. Os gwnawn ni hynny, fe fydden ni’n eu hesgeuluso i farw.”

Ddydd Sadwrn, roedd pwysau ar Dwrci gan yr Undeb Ewropeaidd i agor eu ffiniau.