Mae disgwyl i fwy na 100 miliwn o bobol wylio gornest Super Bowl 50 nos Sul pan fydd y Denver Broncos yn herio’r Carolina Panthers yng Nghaliffornia.

Bydd Beyonce, Coldplay a Bruno Mars yn perfformio yn ystod yr egwyl, tra bydd Lady Gaga yn canu anthem yr Unol Daleithiau cyn i’r gêm ddechrau.

Mae Beyonce a Bruno Mars wedi perfformio yn y digwyddiad yn y gorffennol, ond dyma’r tro cyntaf i Coldplay ymddangos ar lwyfan y Super Bowl.

Roedd 114.4 miliwn o bobol wedi gwylio’r digwyddiad y llynedd – y gynulleidfa fwyaf erioed yn yr Unol Daleithiau ar gyfer yr ornest flynyddol.

Dywedodd prif leisydd Coldplay: “Daeth y bobol o’r NFL aton ni eleni ac roedden nhw am i ni gynnwys y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Y ffordd fyddwn ni’n anrhydeddu’r gorffennol yw drwy edrych ar y bobol y gwnaethon ni fwynhau eu sioeau hanner-amser, ac mae Beyonce yn cyrraedd yr uchelfannau yn hyn o beth.”

Hysbysebion

Elfen arall o’r Super Bowl fydd yn denu cryn sylw unwaith eto eleni yw’r hysbysebion.

Bydd y Fonesig Helen Mirren yn ymddangos yn hysbyseb Budweiser, lle bydd hi’n rhybuddio am beryglon yfed a gyrru.

Bydd yr actor Ryan Reynolds yn ymddangos mewn hysbyseb ar gyfer Hyundai Elantra, tra bydd y rapiwr Drake yn hysbysebu cynnyrch T-Mobile.

Bydd Liam Neeson yn hysbysebu teledu OLED LG, a chanwr Aerosmith, Steven Tyler yn hysbysebu Skittles.

Mae hysbyseb 30 eiliad yn costio hyd at $5 miliwn, medd cylchgrawn Forbes.

Mae modd gwylio’r ornest yn fyw ar y BBC am 10.50 nos Sul.