Adeilad wedi'i lorio yn Tainan (Llun: PA)
Mae beth bynnag saith o bobol wedi marw wedi i ddaeargryn ysgwyd de Taiwan. Mae dwsinau o bobol eraill wedi’u cludo i’r ysbyty.

Mae criwiau achub yn chwilio am bobol yn y rwbel a allai fod wedi goroesi’r daeargryn 6.4, wedi i adeilad 17 llawr gael ei ddymchwel yn y digwyddiad. Mae tua dau ddwsin o bobol ar goll.

Mae 247 o bobol wedi cael eu tynnu o’r rwbel yn fyw, ac mae 73 o’r rheiny wedi’u cludo i’r ysbyty.

Yn ol adroddiadau yn y wlad, roedd yr adeilad uchel yn gartre’ i uned babanod newydd anedig, ac mae babi bach ymysg y meirw.

Roedd y rhan fwya’ o bobol yn dal i fod yn eu gwelyau pan ddecheuodd y crynu am tua 4yb amser Taiwan. Roedd canolbwynt y daeargryn tua 22 milltir i’r de-ddwyrain o Yujing, a thua 6 milltir dan wyneb y ddaear.