Mae heddlu gwrth-frawychiaeth yr Almaen wedi cynnal cyrchoedd mewn nifer o ranbarthau gan arestio tri o bobl.

Mae’n rhan o ymchwiliad i bedwar dyn o Algeria sy’n cael eu hamau o gynllwynio ymosodiadau brawychol yn yr Almaen ac o fod a chysylltiadau a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd yr heddlu yn Berlin bod dau ddyn a dynes wedi cael eu harestio mewn cyrchoedd yn y brifddinas a dau ranbarth gorllewinol arall.

Mae’r awdurdodau’n amau bod y pedwar dyn sy’n cael eu hymchwilio a chysylltiadau gydag IS a bod yr awdurdodau yn Algeria yn chwilio am un o’r dynion, am eu bod yn amau ei fod yn aelod o’r grŵp eithafol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu wrth deledu n-tv bod yr ymchwiliad wedi dechrau ym mis Rhagfyr.